Isaiah 2

Heddwch fydd yn para am byth

(Micha 4:1-3)

1Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:

2Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr Arglwydd
wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,
a'i godi'n uwch na'r bryniau.
Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,
3a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:
“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr Arglwydd,
2:3 Mynydd yr Arglwydd Mynydd Seion, y bryn yn Jerwsalem lle roedd y deml wedi ei hadeiladu.

a mynd i deml Duw Jacob,
iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,
ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”
Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,
a neges yr Arglwydd o Jerwsalem.
4Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd b
ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.
Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr
a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,
nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. c
5Bobl Jacob – Dewch!
gadewch i ni fyw yng ngolau'r Arglwydd.

Pobl anufudd

6Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,
pobl Jacob,
am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain;
yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid
ac yn gwneud busnes gydag estroniaid.
7Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur,
does dim diwedd ar eu trysorau;
Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel,
does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.
8Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,
ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –
pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!
9Bydd pobl yn cael eu darostwng
a pawb yn cywilyddio –
paid maddau iddyn nhw!

Duw yn barnu

10Ewch i guddio yn y graig,
a claddu eich hunain yn y llwch,
rhag i ysblander a mawredd yr Arglwydd
eich dychryn chi!
11Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder,
a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri.
Dim ond yr Arglwydd fydd yn cael ei ganmol
bryd hynny!
12Mae gan yr Arglwydd holl-bwerus ddiwrnod arbennig
i ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd,
a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!
13Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,
sydd mor dal ac urddasol;
gyda choed derw Bashan;
14gyda'r holl fynyddoedd uchel
a'r bryniau balch;
15gyda phob tŵr uchel,
a phob wal solet;
16gyda llongau masnach Tarshish,
2:16 llongau masnach Tarshish Porthladd yn Sbaen. Mae'n debyg fod "llongau Tarshish" yn cyfeirio at longau masnach mawr oedd yn croesi'r moroedd.

a'r cychod pleser i gyd.
17Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr,
a hunanhyder pobl yn syrthio.
Dim ond yr Arglwydd
fydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
18Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.
19Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau
a thyllau yn y ddaear –
rhag i ysblander a mawredd yr Arglwydd
eu dychryn pan fydd yn dod
ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
20Bryd hynny bydd pobl
yn taflu'r eilunod arian a'r eilunod aur
i'r tyrchod daear a'r ystlumod –
yr eilunod wnaethon nhw eu gwneud i'w haddoli.
21Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau,
a hafnau yn y clogwyni,
rhag i ysblander a mawredd yr Arglwydd
eu dychryn pan fydd yn dod
ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
22Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn pobl
sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau!
Achos pa werth sydd iddyn nhw?
Copyright information for CYM